Y Pwyllgor Cyllid Finance Committee Bae Caerdydd / Cardiff Bay Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
|
|
Carl Sargeant Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru
|
xx Ionawr 2015 |
Annwyl Carl
Diolch am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â goblygiadau ariannol y Bil Cynllunio (Cymru) ar 26 Tachwedd 2014 a diolch am eich gohebiaeth a oedd yn amlinellu rhai o'r anghysondebau yn y Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Mae'r Pwyllgor yn nodi eich bod yn bwriadu gwneud y newidiadau hyn ar ddiwedd cyfnod dau.
O ystyried y wybodaeth yn y Bil, ni all y Pwyllgor ddod i unrhyw gasgliadau pendant na llunio unrhyw argymhellion ar gostau ac arbedion y ddeddfwriaeth hon. Credwn mai'r wybodaeth ariannol yn y Bil yw'r amcangyfrif bras gorau ar gyfer y costau o ystyried y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. At hynny, er nad yw'r amcanestyniadau ar gyfer arbedion o reidrwydd mor gadarn â hynny, rydym yn croesawu bwriad y ddeddfwriaeth i gael gwared ag achosion o oedi o'r system a'r posibilrwydd o wneud arbedion sylweddol drwy'r ddeddfwriaeth.
Nododd y Pwyllgor na chaiff y penderfyniad terfynol ynghylch llawer o'r costau ei wneud hyd nes bod yr is-ddeddfwriaeth wedi'i gwneud. I'r perwyl hwn, byddwn yn argymell i'r Pwyllgor Cyllid nesaf y dylai ailystyried goblygiadau ariannol y Bil hwn mewn tua phum mlynedd i weld a oedd y costau a'r arbedion yn realistig.
Rydym wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn amlinellu canfyddiadau'r Pwyllgor er mwyn llywio'r gwaith o graffu ar y Bil drwy'r Cynulliad.
Yn gywir
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd y Pwyllgor